Y GRŴP TRAWSBLEIDIOL AR BLANT SY'N DERBYN GOFAL
ADRODDIAD BLYNYDDOL A DATGANIAD ARIANNOL
Mawrth 2015
LLEISIAU O OFAL VOICES FROM CARE
Rhagair David Melding (Cadeirydd)
Nod y Grŵp Trawsbleidiol ar Blant sy'n Derbyn Gofal yw defnyddio'r adnodd craffu sydd ar gael yn y Cynulliad Cenedlaethol er mwyn helpu i wella safon y gwasanaethau a ddarperir i blant mewn gofal ac unrhyw un sy'n gadael gofal.
Yn ystod y flwyddyn, edrychodd y grŵp ar Adroddiad Bywyd ar ôl Gofal Comisiynydd Plant Cymru a Chamfanteisio'n Rhywiol ar Blant yn Rotherham.
Fel Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol rwy'n ddiolchgar i holl Aelodau'r Cynulliad sydd wedi cefnogi ein gwaith. Rydym hefyd wedi cael budd o arbenigedd amryw o siaradwyr gwadd sydd wedi rhoi’n hael o’u hamser. Ond heb gefnogaeth ragorol ysgrifenyddiaeth y Grŵp, Lleisiau o Ofal, ni fyddai'r gwaith gwerthfawr hwn wedi bod yn bosibl.
Y grŵp trawsbleidiol ar blant sy'n derbyn gofal
Mae'r Grŵp yn cyfarfod i drafod materion pwysig gwahanol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru ac i drafod y goblygiadau o ran polisi.
Mae'r cyfarfodydd hefyd yn gyfle i gynrychiolwyr o sefydliadau perthnasol gyfarfod ag Aelodau'r Cynulliad i drafod materion o bryder ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru.
Aelodaeth ac Ysgrifenyddiaeth
O fis Mawrth 2015, mae'r aelodau a'r ysgrifenyddiaeth fel a ganlyn:
Aelodau:
v David Melding AC, Dirprwy Lywydd (Cadeirydd)
v Bethan Jenkins AC
v Julie Morgan AC
v Mohammad Asghar AC
Ysgrifennydd:
v Rhian Williams – Lleisiau o Ofal
Cyfarfodydd a gynhaliwyd yn ystod y 12 mis diwethaf
Cynhaliwyd cyfanswm o ddau gyfarfod rhwng mis Ebrill 2014 a mis Mawrth 2015.
Ni wnaeth y Grŵp Trawsbleidiol ar Blant sy'n Derbyn Gofal gyfarfod ag unrhyw lobïwyr neu elusennau.
DYDDIAD Y CYFARFOD |
AELODAU'R CYNULLIAD A OEDD YN BRESENNOL |
PYNCIAU A DRAFODWYD |
YN BRESENNOL A SIARADWYR GWADD |
7 Mai 2014
|
David Melding AC, Dirprwy Lywydd - Cadeirydd Craig Lawton - Staff cymorth Suzy Davies AC
|
Adroddiad Bywyd ar ôl Gofal Comisiynydd Plant Cymru |
R. Williams - Lleisiau o Ofal |
25 Chwefror 2015 |
David Melding AC, Dirprwy Lywydd – Cadeirydd Joyce Watson AC Tom Davies – staff cymorth Angela Burns AC Fiona Openshaw – staff cymorth Joyce Watson AC
George Rudebusch, Staff cymorth David Melding AC - cofnodwr
|
Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant yn Rotherham |
Menna Thomas, Swyddog Ymchwil a Pholisi, Barnardo's
Hywel Ap Dafydd – Swyddog Polisi, Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru
|
Datganiad Ariannol
Talwyd cyfanswm o £3.60 mewn treuliau teithio dros y ddau gyfarfod a thalodd Lleisiau o Ofal am y rhain. Roedd amcangyfrif o £119.58 o gostau mewn nwyddau am yr amser a dreuliwyd gan staff Lleisiau o Ofal wrth iddynt wasanaethu'r Grŵp Trawsbleidiol ar Blant sy'n Derbyn Gofal.